Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Mae agendâu’r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac mae modd eu gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn
Toriad: Dydd Llun 21 Gorffennaf 2014 - dydd Sul 14 Medi 2014
Dydd Mawrth 16 Medi a dydd Mercher 17 Medi 2014
Dydd Mawrth 23 Medi a dydd Mercher 24 Medi 2014
Dydd Mawrth 30 Medi a dydd Mercher 1 Hydref 2014
***********************************************************************
Dydd Mawrth 16 Medi 2014
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)
· Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, Diwylliant a Chwaraeon: Adnewyddu’r Polisi Newid yn yr Hinsawdd (45 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Tai ac Adfywio: Camau gan y Sector Tai i Fynd i’r Afael ag Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a Cham-drin Domestig (30 munud)
· Rheoliadau Gweithdrefnau a Ffioedd Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru) (Diwygio Rhif 2) 2014 (15 munud)
· Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) ar y Bil Dadreoleiddio: Diwygiadau mewn perthynas â Phedolwyr a Chytundebau Cartref-Ysgol (15 munud)
Dydd Mercher 17 Medi 2014
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau (45 munud)
· Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth (45 munud)
Busnes y Cynulliad
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar ei Ymchwiliad i gyfleoedd ariannu’r UE 2014-2020 (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
· Dadl Fer (30 munud)
Dydd Mawrth 23 Medi 2014
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)
· Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
· Datganiad gan y Prif Weinidog: Canlyniad Refferendwm yr Alban a’i oblygiadau ar gyfer Cymru (45 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi: Gwasanaethau Cynghori - darparu cefnogaeth ymarferol i bobl yr effeithir arnynt gan y camau i Ddiwygio Lles (30 munud)
· Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg: Cynnydd tuag at Gymru Ddigidol (30 munud)
· Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Seilwaith: Darpariaethau ar gyfer Rheoli Rhywogaethau Ymledol Anfrodorol (15 munud)
· Dadl ar yr Adroddiad Blynyddol ar Ddatblygu Cynaliadwy 2013-14 (60 munud)
Dydd Mercher 24 Medi 2014
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol, Diwylliant a Chwaraeon (45 munud)
· Cwestiynau i’r Gweinidog Tai ac Adfywio (45 munud)
Busnes y Cynulliad
· Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)
· Dadl Fer (30 munud)
Dydd Mawrth 30 Medi 2014
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)
· Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Cyllid: Cyllideb Ddrafft 2015-16 (30 munud)
· Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) ar y Bil Cyfiawnder Troseddol a Llysoedd mewn perthynas â darpariaethau sy’n ymwneud â’r drosedd o gam-drin neu esgeuluso bwriadol gan weithwyr gofal (15 munud)
· Dadl: Darlledu (60 munud)
Dydd Mercher 1 Hydref 2014
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)
· Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi (45 munud)
· Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol (45 munud)
Busnes y Cynulliad
· Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (120 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
· Dadl Fer (30 munud)